Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Mehefin 2022
Amser:
09.32 -
09.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13099
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwyno
2.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ethol John Griffiths AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn gwyno.
3 Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau terfynol i'r Weithdrefn.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canllawiau i gyd-fynd â'r Weithdrefn, yn amodol ar rai mân newidiadau.
4 Papurau i'w nodi - Rheolau a’r canllawiau diwygiedig ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd
4.1 Nododd y Pwyllgor y rheolau a’r canllawiau diwygiedig ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Prif Weithredwr.